SRI Hysbysiad preifatrwydd – Arolwg cenedlaethol o wirfoddolwyr mewn ymateb i COVID-19 yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae SRI wedi cael eu comisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal yr arolwg hwn. Diben yr arolwg hwn yw deall rôl gweithredu a arweinir gan y gymuned ledled Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19. Defnyddir y canfyddiadau i helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i bartneriaid i ddeall a llywio eu cynllunio tymor byr, canolig a hir i wella iechyd y boblogaeth yng Nghymru mewn ymateb i ac wrth wella o COVID-19. Bydd canlyniadau'r arolwg yn helpu i lywio polisïau'r dyfodol gyda'r nod o gynnal cefnogaeth hirdymor ar gyfer y trydydd sector a gweithredu a arweinir gan y gymuned.

Mae eich cyfranogiad yn yr arolwg yn gwbl wirfoddol, a gallwch dynnu'n ôl ar unrhyw adeg.

Y data personol rydym yn ei brosesu

Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth y byddwn yn ei gasglu gennych. Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig â chi ac y gellir ei defnyddio i'ch adnabod. Efallai bydd yr wybodaeth benodol y byddwn yn ei phrosesu yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chod post, lle bo hynny'n berthnasol.

Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r ‘rheolydd data’ ar gyfer yr arolwg hwn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydliad y GIG sy'n darparu cyngor a gwasanaethau iechyd cyhoeddus proffesiynol ac annibynnol i warchod a gwella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu Strategic Research and Insight Ltd (SRI), cwmni ymchwil annibynnol sy’n drydydd parti, i gasglu a chadw data o'r arolwg ar ei ran.

Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer rhannu eich gwybodaeth ag SRI yw galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni tasg gyhoeddus. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dal i fod yn rheolydd yr wybodaeth hon, er mai SRI fydd yn prosesu unrhyw fanylion personol ar ei ran, a chaiff eich gwybodaeth ei defnyddio at y dibenion uchod yn unig. 

Rhannu eich data personol ag eraill

Ni fydd SRI byth yn rhannu gwybodaeth bersonol a gasglwyd ag unrhyw drydydd partïon eraill nad ydynt yn cael eu henwi yma nac yn yr arolwg heb esbonio diben hyn i chi yn gyntaf a chael eich caniatâd penodol. Ni fydd unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod yn cael ei chysylltu â'ch ymatebion a chanlyniadau dienw yn unig a fydd yn cael eu rhannu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yr unig eithriad yw pan fydd gennym bryder gwirioneddol am lesiant unigolyn, ac mewn achos o'r fath, efallai y caiff yr wybodaeth bersonol berthnasol ei rhannu â'r awdurdodau priodol.Os dewiswch gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn, byddwn yn rhannu eich cyfeiriad e-bost ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ond ni fydd y rhain yn gysylltiedig â'ch ymatebion i'r arolwg.

Cadw a dileu

Bydd gwybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i’ch adnabod yn cael ei chadw'n ddiogel gan SRI tan i'r prosiect ddod i ben a chaiff ei dinistrio ar ôl hynny. 

Eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych yr hawl o dan y GDPR i wneud y canlynol:

Y cyswllt ar gyfer yr arolwg hwn yn SRI yw Suzanne Pritchard.                                                                             
E-bost: Suzanne@strategic-research.co.uk  Rhif ffôn: 02920 303100

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk